Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Ar ôl dilysu eich cyfrif I Bawb, rhaid i chi ddilysu eich cyfeiriad e-bost cyn i chi allu mewngofnodi am y tro cyntaf.
Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddilysu eich cyfeiriad e-bost.
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r camau yn Creu eich Cyfrif.
Dilysu eich cyfeiriad e-bost
Pan fyddwch chi’n creu eich cyfrif, bydd I Bawb yn anfon e-bost dilysu yn awtomatig i’r cyfeiriad rydych chi wedi’i roi.
Gall yr e-bost gymryd hyd at 15 munud i gyrraedd.
Mae’r ddolen dilysu yn ddilys am 1 awr o’r adeg mae’r e-bost yn cael ei anfon.
I ddilysu eich cyfrif:
- Agorwch yr e-bost dilysu gan I Bawb.
- Dewiswch “Cliciwch yma i gwblhau eich gwiriad”.
- Mewngofnodi i’ch cyfrif.
Nid wyf wedi derbyn yr e-bost dilysu
Os na allwch ddod o hyd i’r e-bost:
- Gwiriwch eich ffolder Sbam neu Sothach
- Arhoswch hyd at 15 munud i’r e-bost gyrraedd.
Os ydych chi’n dal heb gael yr e-bost:
-
Ewch i’n gwefan:
Dilysu eich E-bost - Dewiswch Ail-anfon eich e-bost dilysu.
Rydw i’n cael neges gwall
Efallai fod eich dolen dilysu wedi dod i ben.
Mae’r dolenni dilysu yn ddilys am 1 awr o’r amser maen nhw’n cael eu hanfon.
I ofyn am e-bost dilysu newydd:
-
Ewch i’n gwefan:
Dilysu eich E-bost - Dewiswch Ail-anfon eich e-bost dilysu.
Efallai eich bod eisoes wedi dilysu eich cyfeiriad e-bost
Ceisiwch fewngofnodi i’ch cyfrif.
Os gallwch chi fewngofnodi’n llwyddiannus, mae eich cyfeiriad e-bost eisoes wedi cael ei ddilysu.
Beth i’w wneud nesaf
Y cam nesaf yw sefydlu sefydliad neu ymuno â sefydliad sy’n bodoli eisoes.