Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Os ydych chi’n defnyddio I Bawb am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif cyn i chi allu defnyddio ein gwasanaethau.
Cyn i chi ddechrau
Oes gennych chi Gyfrif yn barod?
Os oes gennych chi Gyfrif I Bawb yn barod, gallwch fewngofnodi yn lle hynny.
Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost gwaith personol
Rydym yn argymell defnyddio eich cyfeiriad e-bost gwaith eich hun, er enghraifft:
enwcyntaf.cyfenw@sefydliad.co.uk
Dylech osgoi defnyddio cyfeiriad e-bost sy’n cael ei rannu fel:
mynediad@sefydliad.co.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at eich cyfrif e-bost
Byddwn yn anfon e-bost atoch i ddilysu eich cyfrif cyn i chi fewngofnodi.
Creu eich cyfrif
-
Ewch i Creu Eich Cyfrif
-
Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.
-
Creu cyfrinair.
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys o leiaf:
- wyth nod
- un briflythyren
- un llythyren fach
- un rhif
-
un nod arbennig (er enghraifft ~`!@#$%)
-
Dewiswch pa negeseuon e-bost yr hoffech eu cael gennym ni.
Rhaid i chi gytuno i dderbyn Hysbysiadau Cyfrif a Negeseuon E-bost Hysbysu. Mae angen y negeseuon e-bost hyn er mwyn i’ch cyfrif weithio’n iawn.
Gallwch ddewis a ydych chi am gael negeseuon e-bost marchnata gan I Bawb ai peidio.
-
Darllen ein Telerau ac Amodau.
-
Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod yn derbyn ein telerau ac amodau.
- Cliciwch ar ""Creu Cyfrif"".
Beth i’w wneud nesaf
Y cam nesaf yw cadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
Byddwn yn anfon e-bost atoch i’r cyfeiriad rydych wedi’i roi.