Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi greu Cyfrif a dilysu eich cyfeiriad e-bost cyn i chi allu mewngofnodi.
Os nad ydych chi wedi creu cyfrif eto, ewch i’n tudalen gymorth Creu eich Cyfrif.
Mewngofnodi i’ch Cyfrif
-
Ewch i
dudalen mewngofnodiI Bawb.
- Rhowch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio i greu eich Cyfrif I Bawb.
- Rhowch eich Cyfrinair I Bawb.
- Dewiswch Mewngofnodi.
Gofynion cyfrinair
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys o leiaf:
- Wyth nod
- Un briflythyren
- Un llythyren fach
- Un rhif
- Un nod arbennig (er enghraifft ~`!@#$%)
Os na allwch fewngofnodi, bydd neges gwall yn ymddangos o dan y botwm Mewngofnodi. Defnyddiwch y canllaw isod i ddatrys y broblem.
Rwy’n cael neges gwall
Mae’r cyfuniad enw defnyddiwr a chyfrinair yn anghywir (cod: 10001)
Mae’r gwall hwn yn golygu un o’r canlynol:
- Dydy’r cyfeiriad e-bost ddim wedi’i gofrestru gydag I Bawb.
- Mae'r cyfrinair rydych wedi’i roi yn anghywir.
Ailosod eich cyfrinair
- Dewiswch Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
- Dewiswch Cyflwyno.
Bydd I Bawb yn anfon e-bost ailosod cyfrinair atoch.
Gall yr e-bost gymryd hyd at 15 munud i gyrraedd. Os na allwch ddod o hyd iddo, edrychwch yn eich ffolder Sbam neu Sothach.
Nid wyf wedi cael e-bost ailosod cyfrinair
Os nad ydych yn cael e-bost ailosod cyfrinair, efallai nad yw’r cyfeiriad e-bost wedi’i gofrestru gyda chyfrif I Bawb.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’r cyfeiriad e-bost cywir a rhowch gynnig arall arni.