Amcan o’r amser darllen: 1 i 2 funud
Pam wnes i gael y neges e-bost hon?
Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm.
Er enghraifft:
- Efallai fod rhywun wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost mewn camgymeriad wrth geisio mewngofnodi.
-
Efallai fod rhywun yn eich sefydliad wedi gofyn i ailosod cyfrinair gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost.
Beth ddylwn i ei wneud?
Rydw i wedi cael un e-bost ailosod cyfrinair
Os cawsoch chi un e-bost ailosod cyfrinair na wnaethoch chi ofyn amdano, mae’n ddiogel i chi ei anwybyddu.
Dydy eich cyfrinair ddim wedi cael ei newid, a bydd eich Cyfrif yn dal i weithio fel arfer.
Rydw i wedi cael nifer o negeseuon e-bost i ailosod fy nghyfrinair
Os byddwch yn derbyn sawl ebost ailosod cyfrinair na wnaethoch ofyn amdanynt, cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb.
E-bost: help@allin.zendesk.com
Cefais gadarnhad bod fy nghyfrinair wedi cael ei newid
Os byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau bod eich cyfrinair wedi’i ailosod, ond na wnaethoch y newid hwn, cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb ar unwaith.
E-bost: help@allin.zendesk.com
Angen help?
Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch eich Cyfrif, cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb:
E-bost: help@allin.zendesk.com