Amcan o’r amser darllen: 3 i 5 munud
Defnyddiwch y camau isod i brynu tanysgrifiad I Bawb ar gyfer eich Sefydliad.
Mae’r tanysgrifiad wedi ei gysylltu â’r Sefydliad, nid eich cyfrif personol. Does dim cyfyngiad ar faint o aelodau tîm y gallwch chi eu hychwanegu at y Sefydliad rydych chi wedi tanysgrifio iddo.
Cyn i chi ddechrau
Cyn prynu tanysgrifiad:
- Gwnewch yn siŵr bod tîm I Bawb wedi cymeradwyo eich Sefydliad.
-
Gwnewch yn siŵr bod trosiant eich Sefydliad yn gywir, gan fod y
pris tanysgrifioyn seiliedig ar drosiant blynyddol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich rhif archeb brynu wrth law os yw eich Sefydliad yn defnyddio archebion prynu.
- Gwnewch yn siŵr bod eich rhif TAW wrth law os yw eich Sefydliad wedi’i gofrestru ar gyfer TAW.
Os oes angen i chi ddiweddaru eich trosiant cyn tanysgrifio, gweler Golygu Sefydliad.
Bydd angen i dîm I Bawb adolygu a chymeradwyo newidiadau i fanylion eich Sefydliad cyn iddynt ddod i rym. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Creu Sefydliad.
Prisio
Mae ein prisiau tanysgrifio yn seiliedig ar drosiant eich sefydliad a nifer y Lleoliadau cyhoeddus rydych chi’n eu gweithredu.
Tanysgrifiwch ag I Bawb
- Mewngofnodwch i’ch Cyfrif I Bawb.
- Ewch i ddangosfwrdd eich Sefydliad.
- Yn y ddewislen ochr, dewiswch Rheoli tanysgrifiadau.
- Adolygwch eich tanysgrifiadau presennol. Os mai lefel bresennol eich tanysgrifiad yw Blasu, nid ydych wedi tanysgrifio i I Bawb.
- Dewiswch Ychwanegu tanysgrifiad.
Gwiriwch fanylion eich Sefydliad
Gwnewch yn siŵr bod eich trosiant blynyddol a ddangosir yma yn gywir. Mae prisiau tanysgrifio yn seiliedig ar Drosiant eich Sefydliad.
Os yw’r trosiant yn anghywir:
- Dewiswch Gosodiadau cyfrif y Sefydliad.
- Diweddaru eich trosiant.
- Cyflwyno’r newidiadau i’w cymeradwyo os oes angen.
Pan fydd eich trosiant yn gywir, ewch ymlaen i’r cam nesaf drwy ddewis Nesaf.
Rhowch eich gwybodaeth bilio
Gofynnir i chi ddarparu:
Nifer y lleoliadau
Rhowch nifer y lleoliadau mae eich Sefydliad yn gweithredu ynddynt.
Mae lleoliad yn safle sydd â’i gyfeiriad ei hun.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cwestiynau Cyffredin am leoliadau a pharthau.
Rhif archeb prynu (os yw’n berthnasol)
Os yw eich Sefydliad yn defnyddio archebion prynu, rhowch rif yr archeb brynu.
Os nad yw eich Sefydliad yn defnyddio archebion prynu, gadewch y maes hwn yn wag.
I ddysgu mwy, ewch i Archebion prynu.
Rhif TAW (os yw’n berthnasol)
Os yw eich Sefydliad wedi cofrestru ar gyfer TAW, rhowch eich rhif TAW.
Os nad yw eich Sefydliad wedi cofrestru ar gyfer TAW, gadewch y maes hwn yn wag.
Gwlad bilio
- Dewiswch eich gwlad bilio o’r gwymprestr.
-
Ar ôl llenwi pob maes, dewiswch Nesaf.
Adolygwch eich manylion tanysgrifio
Adolygwch yr holl wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi.
Pwysig
-
Gwiriwch eich manylion yn ofalus cyn bwrw ymlaen.
Ar ôl prynu eich tanysgrifiad, efallai na fyddwch yn gallu golygu rhywfaint o’r wybodaeth a ddarparwyd wrth dalu.
- Os oes angen i chi wneud newidiadau, dewiswch Golygu’r manylion hyn.
- Pan fyddwch chi’n barod, dewiswch Cadarnhau pryniant.
Rhybudd
Dim ond os ydych chi’n sicr eich bod am danysgrifio i I Bawb y dylech chi ddewis Cadarnhau pryniant.
Mae’r weithred hon yn cynhyrchu anfoneb.
Dewiswch ddull talu
Ar ôl cadarnhau eich bod wedi prynu, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i Stripe, ein darparwr taliadau.
Gallwch ddewis talu drwy un o’r dulliau canlynol:
- Cerdyn
- Trosglwyddiad banc
Talu drwy drosglwyddiad banc
- Dewiswch Drosglwyddiad banc.
- Llwythwch eich anfoneb i lawr drwy ddewis Anfoneb PDF ar frig y dudalen.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr anfoneb i dalu.
Talu gyda cherdyn
- Dewiswch Gerdyn.
- Rhowch fanylion eich cerdyn.
- Cwblhewch y broses dalu.
Beth i’w wneud nesaf
Ar ôl derbyn y taliad, bydd eich tanysgrifiad yn cael ei ysgogi a byddwch yn gallu cael mynediad at eich nodweddion tanysgrifiwr. Gall hyn gymryd hyd at ddau ddiwrnod gwaith ar ôl derbyn y taliad.
Byddwn yn anfon e-bost at weinyddwr y Sefydliad i gadarnhau bod y tanysgrifiad yn weithredol.
I baratoi ar gyfer eich tanysgrifiad, darllenwch ein Canllaw Cyflym ar gyfer Essentials neu ein Canllaw Cyflym ar gyfer Plus.
Angen help?
Os hoffech chi drafod tanysgrifiadau, bilio neu daliadau, gallwch wneud y canlynol:
-
Trefnwch alwad
Taliadau a Thanysgrifiadau gyda thîm I Bawb drwy Microsoft Teams.
-
Anfonwch e-bost at
subscribers@allin.zendesk.com.
Os nad ydych wedi tanysgrifio eto a’ch bod yn dymuno dysgu mwy am fanteision I Bawb, gallwch drefnu galwad gyda’r tîm i ddysgu mwy am danysgrifio.
Os oes angen dogfennau ategol arnoch, fel prawf o fanylion banc, cysylltwch â:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com