Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae’r erthygl hon yn ateb cwestiynau cyffredin am dalu am danysgrifiad I Bawb.
Sut gallwn ni dalu?
Gallwch dalu am eich tanysgrifiad mewn un o ddwy ffordd:
- Cerdyn
- Trosglwyddiad banc
Dewiswch yr opsiwn sy’n gweithio orau i’ch sefydliad.
Allwn ni dalu gyda cherdyn?
Gallwch.
Gallwch dalu gyda cherdyn yn ystod y broses danysgrifio neu drwy ddefnyddio’r ddolen dalu ar eich anfoneb.
Taliadau cerdyn yw’r dull cyflymaf o dalu fel arfer oherwydd bod y taliad yn cael ei gadarnhau ar unwaith.
Beth sy’n digwydd ar ôl i ni dalu â cherdyn?
Ar ôl derbyn y taliad, bydd tîm I Bawb yn adolygu ac yn cymeradwyo eich Sefydliad.
Gall gymryd hyd at ddau ddiwrnod gwaith i gael cymeradwyaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich statws talu neu gymeradwyo, cysylltwch â:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Allwn ni dalu drwy drosglwyddiad banc?
Gallwch.
Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion talu a ddarperir ar eich anfoneb.
Mae I Bawb yn defnyddio Stripe i brosesu taliadau trosglwyddiad banc.
Mae pob anfoneb yn cynnwys y canlynol:
- Manylion trosglwyddiad banc
- Cyfeirnod talu
Pan fyddwch yn talu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:
- Defnyddio cyfeirnod talu a ddangosir ar yr anfoneb.
- Talu swm llawn yr anfoneb.
Mae hyn yn helpu Stripe i gyfateb eich taliad â’r anfoneb gywir yn awtomatig.
Beth sy’n digwydd ar ôl i ni dalu drwy drosglwyddiad banc?
Ar ôl derbyn y taliad, bydd tîm I Bawb yn adolygu ac yn cymeradwyo eich Sefydliad.
Gall gymryd ychydig o ddiwrnodau gwaith i gael cymeradwyaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Ydych chi’n derbyn Archebion Prynu?
Ydyn.
Os yw eich sefydliad yn defnyddio Archebion Prynu, gallwn gynnwys rhif yr Archeb Brynu ar eich anfoneb.
Os hoffech i rif eich Archeb Brynu ymddangos ar eich anfoneb, rhaid i chi ei nodi yn ystod y broses danysgrifio cyn cynhyrchu’r anfoneb.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Sefydlu Archeb Brynu.
Pryd fyddwn ni’n derbyn ein hanfoneb?
Cynhyrchir eich anfoneb yn ystod y broses danysgrifio pan fyddwch yn cadarnhau eich pryniant, neu yn unol ag unrhyw drefniadau eraill y cytunwyd arnynt gyda thîm I Bawb.
Bydd eich anfoneb yn cynnwys y canlynol:
- Y swm sy’n ddyledus
- Dewisiadau talu
- Manylion trosglwyddiad banc
- Cyfeirnod talu
- Dyddiad dyledus
- Gwybodaeth TAW
- Rhif eich Archeb Brynu (os darparwyd un)
Pa mor hir mae trosglwyddiadau banc yn eu cymryd?
Fel arfer, mae trosglwyddiadau banc yn cymryd rhwng 1 a 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif sy’n derbyn y trosglwyddiad.
Unwaith y bydd eich taliad wedi’i dderbyn a’i gyfateb i’r anfoneb, nodir ei fod wedi cael ei dalu.
Allwch chi ail-anfon anfoneb neu dderbynneb?
Gallwch weld anfonebau cyfredol a blaenorol a’u llwytho i lawr unrhyw bryd.
I weld eich anfonebau:
- Mewngofnodwch i’ch Cyfrif I Bawb.
- Agorwch ddangosfwrdd eich Sefydliad.
- Dewiswch Rheoli tanysgrifiadau.
Bydd eich anfonebau a’ch hanes talu ar gael yno.
Beth os oes angen gwybodaeth am y cyflenwr ar ein tîm cyllid?
I gael gwybodaeth am sefydlu cyflenwyr, gan gynnwys manylion y sefydliad, gwybodaeth am TAW a chysylltiadau cyllid, ewch i Sefydlu Archeb Brynu.
Rwy’n cael problem gyda thaliad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canlynol:
- Taliadau
- Anfonebau
- Archebion Prynu
- Gwybodaeth bilio
- Prynu drwy danysgrifiad
Cysylltwch â’r tîm Cymorth i Danysgrifwyr:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Angen help?
Os oes angen cymorth arnoch gyda thanysgrifiadau neu daliadau, cysylltwch â:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com