Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae angen rhif Archeb Brynu (PO) ar rai sefydliadau cyn y gallant dalu anfoneb.
Mae’r erthygl hon yn esbonio beth yw rhif Archeb Brynu, pryd mae angen un arnoch, a sut mae’r taliad yn gweithio wrth brynu tanysgrifiad I Bawb.
Beth yw rhif Archeb Brynu?
Mae rhif Archeb Brynu (PO) yn gyfeirnod sydd wedi’i greu gan eich tîm cyllid.
Mae’n helpu eich sefydliad i gymeradwyo, olrhain a chysoni gwariant.
A oes angen rhif Archeb Brynu arna i?
Os gall eich sefydliad dalu anfonebau heb rif Archeb Brynu, nid oes angen cymryd camau pellach.
Dim ond os oes angen rhif Archeb Brynu ar gyfer proses gyllid eich sefydliad y bydd angen i chi gael un.
Os hoffech i rif yr Archeb Brynu ymddangos ar eich anfoneb, rhaid i chi ei nodi yn ystod y broses danysgrifio cyn cynhyrchu’r anfoneb.
Os nad ydych chi’n siŵr, siaradwch â’ch tîm cyllid neu gaffael.
Cyn i chi ddechrau
Os yw eich sefydliad yn defnyddio Archebion Prynu, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Gosodwch I Bawb fel cyflenwr yn eich system gyllid.
- Crëwch Archeb Brynu ar gyfer eich tanysgrifiad.
-
Gwnewch nodyn o’r Archeb Brynu i’w defnyddio yn ystod
proses danysgrifio I Bawb.
Sut mae’r taliad yn gweithio
Mae I Bawb yn defnyddio Stripe i gynhyrchu anfonebau a phrosesu taliadau.
Bydd Stripe yn cadw eich gwybodaeth talu yn ddiogel. Nid yw I Bawb yn storio eich manylion talu.
Pan gynhyrchir anfoneb, mae’n cynnwys y canlynol:
- Manylion trosglwyddiad banc.
- Cyfeirnod talu sy’n helpu Stripe i gyfateb eich taliad â’r anfoneb gywir.
Wrth wneud taliad, dylai eich tîm cyllid ddefnyddio’r manylion banc a’r cyfeirnod talu a ddangosir ar yr anfoneb.
Gwybodaeth ar gyfer gosod cyflenwr
Efallai y bydd angen y wybodaeth ganlynol ar eich tîm cyllid i’n hychwanegu ni fel cyflenwr ac i greu Archeb Brynu.
Manylion y sefydliad
Enw masnachu
Arts Council England
Enw’r cwsmer
The Arts Council Of England
Cyfeiriad busnes
The Hive, Floor 2
47 Lever Street
Manchester
M1 1FN
Rhif cofrestru TAW
239196142
Rhif cofrestru’r elusen
1036733
Cyswllt cyllid
Enw: Joanne Blunt
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Os oes angen dogfennau ychwanegol ar eich tîm cyllid, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Sut mae darparu eich rhif Archeb Brynu
Os oes angen i’ch rhif Archeb Brynu ymddangos ar eich anfoneb:
- Gwnewch yn siŵr bod rhif yr Archeb Brynu wrth law cyn i chi ddechrau’r broses danysgrifio.
- Rhowch rif yr Archeb Brynu yn ystod y broses danysgrifio.
- Cwblhewch y broses danysgrifio.
Bydd rhif yr Archeb Brynu wedyn yn cael ei ychwanegu at eich anfoneb yn awtomatig.
Cwestiynau cyffredin
Alla i ddarparu rhif Archeb Brynu ar ôl i mi dderbyn fy anfoneb?
Os ydych angen i rif yr Archeb Brynu ymddangos ar eich anfoneb, rhaid i chi ei nodi yn ystod y broses danysgrifio cyn cynhyrchu’r anfoneb. Does dim modd i ni ychwanegu Rhifau Archebion Prynu at anfoneb ar ôl iddi gael ei chynhyrchu.
Beth os nad yw fy sefydliad yn defnyddio Archebion Prynu?
Mae hynny'n iawn. Os yw eich proses gyllid yn caniatáu hynny, gallwch dalu eich anfoneb heb rif Archeb Brynu.
Beth os oes angen rhagor o wybodaeth ar fy nhîm cyllid?
Cysylltwch â’r tîm Cymorth i Danysgrifwyr a byddwn yn darparu unrhyw ddogfennau ategol sydd ar gael gennym.
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ôl i chi roi rhif eich Archeb Brynu:
- Bydd rhif yr Archeb Brynu wedyn yn ymddangos ar eich anfoneb.
- Gall eich tîm cyllid baru’r anfoneb â’r Archeb Brynu gywir.
- Gellir talu gan ddefnyddio’r manylion banc a ddangosir ar yr anfoneb.
Angen help?
Os oes gennych chi gwestiynau am danysgrifiadau, anfonebu neu Archebion Prynu, cysylltwch â’r tîm Cymorth i Danysgrifwyr:
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com