Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae eich proffil mynediad parth yn eich galluogi i gyfleu hygyrchedd ardal benodol mewn lleoliad, fel awditoriwm mewn theatr, oriel mewn amgueddfa, neu fan awyr agored ar yr un safle.
Mae parth yn ardal benodol y mae pobl yn ei defnyddio neu’n symud drwyddi. Os yw eich adeilad yn cynnwys ardal awyr agored sy’n rhan o’r un safle, gallwch ei drin fel un lleoliad a chreu parth ar wahân ar gyfer yr ardal awyr agored honno.
Ydych chi’n ansicr beth sy’n cyfrif fel ‘lleoliad’ neu ‘barth’ yn eich sefydliad, neu a oes gennych chi gwestiynau technegol eraill? Ewch i ein Cwestiynau Cyffredin proffil mynediad lleoliad a pharthau i gael rhagor o wybodaeth.
Beth yw’r parthau?
Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn eich proffiliau mynediad parth yn helpu pobl anabl i deimlo’n hyderus ynghylch ymweld â’ch lleoliad a defnyddio mannau penodol ynddo. Mae’n galluogi pobl i baratoi ar gyfer eu hymweliad a deall beth i’w ddisgwyl mewn gwahanol ardaloedd.
Bydd modd i gynulleidfaoedd ddod o hyd i’ch lleoliad a’i barthau pan fyddant yn chwilio drwy restrau cyhoeddus I Bawb am ddarpariaethau mynediad lleoliad a digwyddiadau sydd o bwys iddynt.
Ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth ddefnyddiol ag y gallwch. Mae’r lefel hon o fanylder yn wirioneddol bwysig. Mae’n helpu pobl anabl i ymddiried y byddan nhw’n cael eu croesawu a’u cefnogi yn eich mannau chi.
Dechrau arni
Dechreuwch drwy greu neu ddewis eich lleoliad (er enghraifft, eich theatr, eich amgueddfa neu eich canolfan gelfyddydau).
Yna, ewch ati i greu parth ar gyfer pob ardal wahanol y mae pobl yn ei defnyddio, fel:
awditoriwm
oriel
stiwdio neu ofod gweithdy
caffi neu gyntedd
man perfformio neu arddangos yn yr awyr agored
Ar gyfer pob parth:
Ychwanegwch enw’r parth ac unrhyw fanylion adnabod defnyddiol.
Dewiswch y darpariaethau mynediad sy’n berthnasol i’r parth penodol hwnnw.
Ticiwch y blwch i ddangos a yw pob darpariaeth ar gael yn y gofod hwnnw.
Ychwanegwch ddisgrifiadau i egluro’r hyn y gall pobl ei ddisgwyl ac unrhyw fanylion pwysig ynglŷn â mynediad yn y parth hwnnw.
Ar ôl i chi gwblhau parth, dylech ei adolygu a’i gadw. Pan fyddwch yn barod, gallwch gyhoeddi eich parthau fel eu bod yn ymddangos yn fyw i’r cyhoedd fel rhan o wybodaeth mynediad eich lleoliad.
Ysgrifennu disgrifiadau da ar gyfer eich darpariaethau mynediad
Dyma rai pwyntiau allweddol i’w cofio er mwyn creu proffil mynediad da:
- dylech gynnwys cymaint o fanylion defnyddiol ag y gallwch
- byddwch yn benodol ac yn ddisgrifiadol. Er enghraifft, defnyddiwch fesuriadau a phellteroedd yn hytrach na barn amwys fel ""mynd am dro fer""
- defnyddiwch iaith glir a syml
- ychwanegwch hyperddolenni lle bynnag y bo hynny'n berthnasol. Gallai’r rhain fod yn ddolenni i dudalennau gwe, fideos, mapiau neu ddogfennau eraill
ychwanegu delweddau clir pan fo hynny’n berthnasol
cynnwys testun amgen ar gyfer pob delwedd.
Gweld canllaw ar sut i ysgrifennu testun amgenDysgwch fwy am yr hyn sy’n gwneud tudalen wybodaeth mynediad dda yn Cyfathrebu Digidol 1.01 Tudalennau Gwybodaeth Mynediad.
Oes angen i mi lenwi pob maes?
Nac oes. Mae ein ffurflen proffil mynediad yn gynhwysfawr, ac nid ydym yn disgwyl i bob maes gael ei lenwi, yn enwedig os ydych chi’n dechrau ar eich taith I Bawb. Efallai na fydd rhai darpariaethau’n berthnasol i’ch ffurf ar gelfyddyd neu leoliad. Neu efallai y bydd angen i chi ofyn am ragor o wybodaeth gan gydweithwyr ar draws adrannau.
Gallwch hepgor adrannau drwy glicio ""Cadw a nesaf"". Gallwch hefyd ddychwelyd yn nes ymlaen i ychwanegu rhagor o fanylion.
Yn bwysicaf oll: byddwch yn agored ynghylch eich darpariaethau ac unrhyw gyfyngiadau. Cofiwch, eich nod yw croesawu cynulleidfaoedd drwy ddarparu gwybodaeth sy’n meithrin hyder. Mae gwybod beth i’w ddisgwyl yn galluogi pobl anabl i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Mae gwybod y gallai fod rhwystr mynediad yn wybodaeth werthfawr a all helpu rhywun i gynllunio sut i ymdopi â hyn. Gallwch wedyn gynllunio sut mae mynd i’r afael â’r rhwystrau rydych chi’n eu nodi, a gwella eich darpariaeth mynediad dros amser, gyda chymorth I Bawb.
Cynllunio, cydweithio a gwella
Bydd y ffordd rydych chi’n mynd ati i lenwi eich proffil mynediad parth yn dibynnu ar eich cyd-destun ac ar eich sefydliad. Gallai gynnwys amryw o weithgareddau:
- tynnu lluniau a chymryd mesuriadau o’ch parth
- edrych ar eich gwefan am wybodaeth neu bolisïau
- dirprwyo adrannau i aelodau eraill o’r tîm i’w cwblhau
Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio’r gweithgareddau hyn yn yr un modd ag unrhyw brosiect arall, gan egluro pwy sydd ar gael i’ch cefnogi, a sut rydych chi’n blaenoriaethu hyn.
Er mwyn eich helpu i gasglu eich ymatebion, rydym wedi creu fersiwn dogfen Word y gellir ei llwytho i lawr o’r ffurflen proffil mynediad parth. Gallwch ddefnyddio hwn i gydweithio’n ddigidol ag eraill.
Wrth i chi weithio ar gwblhau eich proffil mynediad lleoliad, byddwch yn gweld lle gallwch wella eich hygyrchedd. Bydd yr amser a’r sylw a rowch i gwblhau eich proffil yn gyfle i gynllunio a thyfu eich darpariaeth mynediad a chynhwysiant, gan wahodd mwy o bobl drwy eich drysau.
Edrychwch ar faes Safonau Hygyrchedd I Bawb a Chymorth a Sgiliau i gael arweiniad ar wella mynediad.