Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae eich proffil mynediad lleoliad yn gadael i chi roi gwybod am hygyrchedd lleoliad penodol.
Ydych chi'n ansicr beth yw 'lleoliad' neu 'barth' yn eich sefydliad, neu oes gennych chi unrhyw gwestiynau technegol eraill? Ewch i Gwestiynau Cyffredin ein proffil mynediad lleoliadau a pharthau i gael rhagor o wybodaeth.
Beth yw pwrpas proffiliau mynediad lleoliadau?
Bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn eich proffil mynediad lleoliad yn helpu pobl anabl i deimlo’n hyderus i fynd i brofiad creadigol neu ddiwylliannol. Bydd yn galluogi mwy o gwsmeriaid i baratoi ar gyfer eu hymweliad. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu dod o hyd i’ch lleoliad pan fyddant yn chwilio drwy restrau cyhoeddus I Bawb am ddarpariaethau mynediad sy’n berthnasol iddynt.
Y nod yw cynnwys cymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich darpariaethau mynediad. Gall y manylyn hwn wneud byd o wahaniaeth. Mae’n helpu pobl anabl i ymddiried y byddant yn cael eu croesawu a’u cynnwys mewn gofod.
Edrychwch ar y proffiliau mynediad I Bawb yma i gael ysbrydoliaeth:
Dechrau arni
Dechreuwch drwy lenwi gwybodaeth gyffredinol, fel enw a chyfeiriad eich lleoliad.
Yna dewiswch yr holl ddarpariaethau mynediad mae eich lleoliad yn eu darparu. Ticiwch y blwch i ddangos a yw pob darpariaeth mynediad ar waith gennych chi.
Nesaf, ychwanegwch wybodaeth a delweddau i ddisgrifio pob un o’ch darpariaethau mynediad. Dyma ble gallwch ddweud wrth eich ymwelwyr beth y gallant ei ddisgwyl, ac unrhyw beth penodol am fynediad yn eich lleoliad.
Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen, edrychwch ar eich proffil mynediadlleoliad a’i gyflwyno.
Os yw eich sefydliad wedi tanysgrifio i I Bawb, bydd ein Harbenigwyr Mynediad wedyn yn adolygu eich proffil lleoliad i awgrymu gwelliannau pellach ac i sicrhau bod eich rhestriad yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar y cyhoedd.
Gall tanysgrifwyr drefnu galwad adolygu lleoliad am gymorth wedi’i deilwra gan Arbenigwr Mynediad ar unrhyw adeg. Mewngofnodwch a mynd i ddangosfwrdd eich sefydliad i drefnu galwad.
Ar ôl i chi gwblhau unrhyw welliannau a awgrymir, byddwn yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi proffiliau lleoliad tanysgrifwyr fel eu bod yn ymddangos yn rhestr I Bawb, yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd eu canfod.
Ysgrifennu disgrifiadau da ar gyfer eich darpariaethau mynediad
Dyma rai pwyntiau allweddol i’w cofio er mwyn creu proffil mynediad da:
- cynnwys cymaint o fanylion defnyddiol ag y gallwch
- byddwch yn benodol ac yn ddisgrifiadol. Er enghraifft, defnyddiwch fesuriadau a phellteroedd yn hytrach na barn amwys fel ""mynd am dro fer""
- defnyddiwch iaith glir a syml
- ychwanegwch hyperddolenni lle bynnag y bo hynny'n berthnasol. Gallai’r rhain fod yn ddolenni i dudalennau gwe, fideos, mapiau neu ddogfennau eraill
ychwanegu delweddau clir pan fo hynny’n berthnasol
cynnwys testun amgen ar gyfer pob delwedd.
Gweld canllaw ar sut i ysgrifennu testun amgenDysgwch fwy am yr hyn sy’n gwneud tudalen wybodaeth mynediad dda yn Cyfathrebu Digidol 1.01 Tudalennau Gwybodaeth Mynediad.
Oes angen i mi lenwi pob maes?
Nac oes. Mae ein ffurflen proffil mynediad yn gynhwysfawr, ac nid ydym yn disgwyl i bob maes gael ei lenwi, yn enwedig os ydych chi’n dechrau ar eich taith I Bawb. Efallai na fydd rhai darpariaethau’n berthnasol i’ch ffurf ar gelfyddyd neu leoliad. Neu efallai y bydd angen i chi ofyn am ragor o wybodaeth gan gydweithwyr ar draws adrannau.
Gallwch hepgor adrannau drwy glicio ""Cadw a nesaf"". Gallwch hefyd ddychwelyd yn nes ymlaen i ychwanegu rhagor o fanylion.
Yn bwysicaf oll: byddwch yn agored ynghylch eich darpariaethau ac unrhyw gyfyngiadau. Cofiwch, eich nod yw croesawu cynulleidfaoedd drwy ddarparu gwybodaeth sy’n magu hyder. Mae gwybod beth i’w ddisgwyl yn galluogi pobl anabl i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Mae gwybod y gallai fod rhwystr mynediad yn wybodaeth werthfawr a all helpu rhywun i gynllunio sut i ymdopi â hyn. Gallwch wedyn gynllunio sut mae mynd i’r afael â’r rhwystrau rydych chi’n eu nodi, a gwella eich darpariaeth mynediad dros amser, gyda chymorth I Bawb.
Cynllunio, cydweithio a gwella
Bydd y ffordd rydych chi’n mynd ati i lenwi eich proffil mynediad lleoliad yn dibynnu ar eich cyd-destun ac ar eich sefydliad. Gallai gynnwys amryw o weithgareddau:
- cerdded o amgylch eich safle gyda chydweithwyr blaen tŷ a chymryd nodiadau
- tynnu lluniau a chymryd mesuriadau
- edrych ar eich gwefan am wybodaeth neu bolisïau
- dirprwyo adrannau i aelodau eraill o’r tîm i’w cwblhau
Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio’r gweithgareddau hyn yn yr un modd ag unrhyw brosiect arall, gan egluro pwy sydd ar gael i’ch cefnogi, a sut rydych chi’n blaenoriaethu hyn.
Er mwyn eich helpu i gasglu eich ymatebion, rydym wedi creu fersiwn dogfen Word y gellir ei llwytho i lawr o’r ffurflen proffil mynediad lleoliad. Gallwch ddefnyddio hyn i gydweithio’n ddigidol ag eraill.
Wrth i chi fynd ati i lenwi eich proffil mynediad lleoliad, byddwch yn gweld ardaloedd lle gallwch wella eich hygyrchedd. Bydd yr amser a’r sylw rydych chi’n ei roi i gwblhau eich proffil yn gyfle i gynllunio a thyfu eich darpariaeth mynediad a chynhwysiant, gan wahodd mwy o bobl drwy eich drysau.
Edrychwch ar Safonau Hygyrchedd I Bawb i gael arweiniad ar wella mynediad a rhoi gwybod am hyn yn eich proffil.
Ychwanegu Lleoliad mewn sawl iaith
Ar hyn o bryd, mae I Bawb yn gallu delio â dwy iaith: Cymraeg a Saesneg.
Os hoffech restru eich Lleoliad mewn mwy nag un iaith, bydd angen i chi greu un Lleoliad ym mhob iaith.
Nid oes ffi Lleoliad ychwanegol yn cael ei chodi ar Leoliadau Ychwanegol sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer yr un lleoliad ond mewn iaith wahanol.
Rydym yn argymell cwblhau eich Lleoliad mewn un iaith yn gyntaf. Yna, pan fydd wedi cael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi gan ein Harbenigwyr Mynediad, cyfieithwch eich Lleoliad gorffenedig i ieithoedd eraill.
Yn ystod y broses o greu eich Lleoliad, gofynnir i chi ""Beth yw iaith y proffil lleoliad hwn"". Dewiswch yr iaith briodol o’r gwymplen.
Cyfrifoldeb eich sefydliad, yn hytrach nag I Bawb, yw sicrhau bod unrhyw gyfieithiadau’n cael eu cwblhau a’u bod yn gywir.
"