"
Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae creu proffil mynediad Lleoliad yn eich helpu i gofnodi a rheoli eich gwybodaeth hygyrchedd mewn un lle.
Ar ôl gorffen, gall eich Lleoliad helpu cynulleidfaoedd i ddeall y nodweddion mynediad sydd ar gael yn eich lleoliad, gan ei gwneud yn haws i bobl gynllunio eu hymweliad.
Gall cwblhau proffil mynediad hefyd eich helpu i nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd ar draws eich Sefydliad.
Gall tanysgrifwyr gyhoeddi proffiliau mynediad lleoliad a pharth cymeradwy i ymddangos yn rhestrau cyhoeddus I Bawb ar ôl i’n Harbenigwyr Mynediad eu cymeradwyo.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng lleoliad a pharth?
Gyda thanysgrifiad, gallwch greu proffiliau mynediad ar gyfer lleoliadau a pharthau.
Lleoliad:
Mae lleoliad yn adeilad, yn lleoliad neu’n fan awyr agored lle mae eich Sefydliad yn croesawu aelodau o’r cyhoedd.
Lleoliad:
- Mae ganddo ei gyfeiriad ei hun
- Yn meddu ar ei wybodaeth mynediad ei hun
- Mae’n cynrychioli safle cyfan
Dyma rai enghreifftiau:
- Theatr
- Amgueddfa
- Oriel
- Llyfrgell
- Canolfan Gelfyddydau
Parth
Mae parth yn ardal benodol mewn lleoliad lle gallai profiad yr ymwelydd fod yn wahanol.
Dyma ambell enghraifft:
- Awditoriwm mewn theatr
- Oriel mewn amgueddfa
- Stiwdio mewn oriel gelf
- Caffi mewn canolfan gelfyddydau
- Ardal awyr agored sydd wedi’i chysylltu â’r un safle
Os yw eich lleoliad yn cynnwys mannau awyr agored fel rhan o’r un cyfeiriad, gallwch greu un lleoliad a defnyddio parthau i ddisgrifio’r gwahanol ardaloedd ynddo.
Sawl lleoliad y gallaf eu creu?
Mae nifer y lleoliadau y gallwch eu creu yn dibynnu ar eich tanysgrifiad.
Wrth brynu tanysgrifiad, gofynnir i chi sawl lleoliad y mae eich sefydliad yn gweithredu. Mae hyn yn pennu faint o broffiliau mynediad lleoliadau sydd wedi eu cynnwys fel rhan o’ch tanysgrifiad.
Mae lleoliad yn safle sydd â’i gyfeiriad a’i wybodaeth fynediad ei hun.
Er enghraifft:
- Byddai theatr ag un cyfeiriad fel arfer yn cyfrif fel un lleoliad.
- Gall amgueddfa â mwy nag un safle gyfrif fel sawl lleoliad.
- Fel arfer, byddai lleoliad gyda mwy nag un lle yn yr un cyfeiriad yn un lleoliad gyda mwy nag un parth.
Os nad ydych chi’n siŵr sawl lleoliad sydd gan eich sefydliad, cysylltwch â’r tîm Cymorth i Danysgrifwyr.
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Alla i ychwanegu mwy o leoliadau rywbryd eto?
Gallwch.
Os bydd eich Sefydliad yn agor safleoedd ychwanegol neu os hoffech ychwanegu rhagor o leoliadau yn y dyfodol, cysylltwch â’r tîm Cymorth i Danysgrifwyr i drafod eich opsiynau.
E-bost: subscribers@allin.zendesk.com
Oes angen i mi lenwi pob maes?
Nac oes.
Mae ein proffiliau mynediad wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysfawr, ac nid ydym yn disgwyl i sefydliadau gwblhau pob maes ar unwaith.
Os ydych chi’n dechrau arni, canolbwyntiwch ar ychwanegu’r wybodaeth sydd ar gael i chi ac ychwanegu at eich proffil dros amser.
I gael arweiniad, edrychwch ar Llenwch eich proffil mynediad lleoliad.
Meysydd gorfodol
Mae’n rhaid i’r meysydd canlynol yn Rhan 1: Gwybodaeth Gyffredinol gael eu llenwi cyn y gallwch fwrw ymlaen:
- Enw lleoliad
- Cyfeiriad
- Disgrifiad
- Y ffurf ar gelfyddyd a gynigir
- Llun o’ch lleoliad
- Testun amgen ar gyfer eich delwedd
Mae’r maes Ffurf ar gelfyddyd a gynigir yn gwymplen aml-ddewisiad. Dewiswch yr holl opsiynau sy’n berthnasol i’ch sefydliad.
Ar ôl llenwi’r meysydd gorfodol, gallwch symud i’r adran nesaf unrhyw bryd drwy ddewis Cadw a nesaf.
A fydd fy nghynnydd yn cael ei gadw?
Bydd.
Bydd eich cynnydd yn cael ei gadw pryd bynnag y byddwch yn dewis:
- Cadw a nesaf
- Cadw cynnydd
Gallwch adael eich proffil a dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Alla i gael help gyda fy mhroffil mynediad lleoliad?
Gallwch.
Gall tanysgrifwyr fanteisio ar ein cynnig Cymorth a sgiliau, gan gynnwys cymorth un-i-un wedi’i deilwra gan Arbenigwyr Mynediad.
Gallant eich helpu i wneud y canlynol:
- Deall y Safonau Hygyrchedd
- Cwblhau eich proffil mynediad lleoliad
- Nodi bylchau yn eich gwybodaeth hygyrchedd
- Gwella ansawdd eich proffil
Beth os yw fy Sefydliad yn cynnig darpariaeth mynediad heb ei rhestru?
Byddem ni wrth ein boddau’n clywed amdani.
Mae hygyrchedd yn esblygu drwy’r amser, ac rydym am i I Bawb adlewyrchu anghenion y sector.
Os ydych chi’n meddwl bod darpariaeth mynediad y dylid ei gynnwys, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei hystyried fel rhan o welliannau yn y dyfodol.
E-bost: help@allin.zendesk.com
Alla i ddarparu gwybodaeth am fynediad yn fy Lleoliad a’m Parthau mewn mwy nag un iaith?
Ar hyn o bryd mae I Bawb yn gallu delio â dwy iaith: Cymraeg a Saesneg.
Os hoffech restru eich Lleoliad mewn mwy nag un iaith, bydd angen i chi greu un Lleoliad i bob iaith.
Nid oes ffi Lleoliad ychwanegol yn cael ei chodi ar Leoliadau Ychwanegol sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer yr un lleoliad ond mewn iaith wahanol.
Rydym yn argymell cwblhau eich Lleoliad mewn un iaith yn gyntaf. Yna, pan fydd wedi cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi gan ein Harbenigwyr Mynediad, cyfieithwch eich Lleoliad gorffenedig i ieithoedd eraill.
Yn ystod y broses o greu eich Lleoliad, bydd gofyn i chi nodi ""Beth yw iaith y proffil lleoliad hwn"". Dewiswch yr iaith briodol o’r gwymplen.
Cyfrifoldeb eich sefydliad, yn hytrach nag I Bawb, yw sicrhau bod unrhyw gyfieithiadau’n cael eu cwblhau a’u bod yn gywir.
Rwy’n cael problem dechnegol
Os ydych chi wedi dod o hyd i nam, yn cael problem, neu os hoffech chi rannu adborth am y platfform cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb.
E-bost: help@allin.zendesk.com
Angen help?
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio I Bawb, cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb:
E-bost: help@allin.zendesk.com
"