Beth fydd yn newid o fy mhrofiad gyda Hynt?
Mae llawer o’r pethau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw yn Hynt ac yn eu mwynhau’n fawr iawn yn dal i fodoli, ond maen nhw wedi newid. Er enghraifft, rhestrau ar-lein. Mae hon yn nodwedd sy’n rhan o I Bawb ond bydd angen llai o fewnbwn â llaw na Hynt. Nawr, byddwch chi’n gallu diweddaru rhestrau, gwybodaeth am eich lleoliadau ar broffil eich lleoliad, a gwirio aelodaeth ar I Bawb.
Mae amrywiaeth o nodweddion newydd, gan gynnwys integreiddio proses tocynnau’n well, y safonau hygyrchedd newydd, a phroses archebu symlach a mwy cyson lle mae anghenion o ran mynediad yn cael eu rhannu unwaith. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i’r Porth Cardiau a gwefan Hynt mwyach, ond mynd drwy I Bawb yn lle hynny.
Bydd mwy o gyfleoedd i ddatblygu cynulleidfaoedd wrth i ni ehangu i fathau eraill o sefydliadau a sectorau fel treftadaeth.
Sut bydd pethau’n newid i unigolion sy’n aelod o Hynt?
Bydd aelodau’n elwa o un porth digidol amlieithog, gan gynnwys Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain. Mae modd rhannu gofynion mynediad unwaith a byddan nhw’n cael eu cydnabod ar draws lleoliadau ledled y DU ac Iwerddon. Bydd y profiad yn un mwy cydlynol, ac yn hawdd ei adnabod a hawdd ei ddefnyddio lle bynnag y bydd pobl yn ymgysylltu â’r celfyddydau a diwylliant.
Yn ogystal â defnyddio mwy ar aelodaeth o I Bawb, mewn mannau y tu allan i Gymru, mae gennym hefyd gynlluniau yn y dyfodol i ehangu tanysgrifwyr i fwy na dim ond theatrau a chanolfannau celfyddydau ac i leoliadau diwylliannol eraill.
Wrth allu cyfleu gofynion mynediad yn well i leoliadau, bydd hyn yn gwella’r broses archebu a phrofiad ymwelwyr.
Gyda gwybodaeth fanylach ar gael am leoliadau a digwyddiadau, bydd unigolion sy’n aelodau o Hynt ar hyn o bryd yn gallu cynllunio eu hymweliadau’n well.
Rydym yn symud tuag at ddull digidol gan fod pethau wedi symud ymlaen ers lansio Hynt yn 2015, a’n nod yw manteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau technegol. Rydym yn deall bod yn well gan rai pobl gerdyn go iawn yn eu llaw, ac fe wnawn ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Sut bydd taliadau’n newid yn y dyfodol?
Bydd tanysgrifwyr yn dal i gael anfoneb unwaith y flwyddyn. Mae gennych yr opsiwn i dalu drwy anfoneb neu wneud taliad uniongyrchol drwy lwyfan I Bawb gyda cherdyn. Eich blwyddyn dalu gyfredol fydd rhwng mis Mehefin a mis Mehefin o hyd. Bydd y prisiau newydd yn dod i rym ar unwaith. Bydd tanysgrifwyr presennol Hynt yn symud i fod yn danysgrifwyr I Bawb a Mwy.
Sut ydw i’n symud fy sefydliad drosodd i I Bawb?
Yn gyntaf, tanysgrifiwch i I Bawb ar wefan All In. Gofynnir i chi gwblhau’r tasgau i greu cyfrif i’ch sefydliad.
Beth fydd yn digwydd os na fydd fy sefydliad yn symud drosodd?
Bydd Megan a Mari o dîm Hynt yn eich annog i symud draw o Hynt i I Bawb. Ond, os byddwch chi’n dewis peidio â symud, bydd eich mynediad at Hynt yn dod i ben ddechrau 2027.
Bydd Hynt yn dod i ben ac ni fyddwch yn gallu cael mynediad at Borth Cardiau Hynt i weld pwy yw’r aelodau. Bydd gwefan Hynt yn cael ei dileu yn 2027. Os na fyddwch chi’n symud drosodd, ni fydd gan eich sefydliad bresenoldeb o gwbl ar wefan I Bawb, felly bydd gan ymwelwyr anabl lai o wybodaeth i gynllunio eu hymweliadau. Ni fydd eich digwyddiadau’n cael eu cynnwys yn ein rhestrau ar-lein. Ni fyddwch yn gallu defnyddio ein tîm cymorth mynediad.
Pryd fydd Aelodau Hynt yn dod yn Aelodau I Bawb?
Byddwn yn cysylltu ag aelodau Hynt ar 26 Hydref 2026 neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, a bydd llwyfan I Bawb ar agor i aelodau Hynt ymuno a dod yn aelodau o I Bawb o 23 Tachwedd 2026 ymlaen.
Byddwn yn rhoi templedi deunyddiau marchnata a thestun i chi i helpu gyda’ch deunydd cyfathrebu.
Rydym yn deall na fydd pob un sy’n aelod o Hynt yn symud i I Bawb ar unwaith, felly bydd gennym ni gyfnod oedi ar waith.
Ydy fy sefydliad yn dal yn gallu defnyddio Hynt ar ôl i ni symud?
Ydy, ond mae hwn yn gyfnod pontio dros dro, ac rydym yn eich annog i symud draw ar ôl 20 Hydref er mwyn cael popeth yn ei le ar gyfer aelodau sy’n symud draw ddiwedd mis Tachwedd.
Bydd cyfnod pontio i sicrhau bod cynulleidfaoedd, lleoliadau a phartneriaid yn cael amser i addasu i’r enw a’r brand newydd.
Fel un o danysgrifwyr Hynt, gallwch ddefnyddio Porth Cardiau Hynt yn ystod ein cyfnod oedi wrth i aelodau symud i I Bawb, ond ni fydd yn cael ei ddiweddaru ar ôl hyn.
Mae croeso i chi gadw Hynt ac I Bawb yn fyw yn ystod y cyfnod oedi er mwyn helpu i sicrhau bod popeth yn trosglwyddo’n ddidrafferth.
Ydy aelodau Hynt yn dal yn gallu defnyddio Hynt ar ôl i ni symud?
Ydyn, ond dim ond yn ystod y cyfnod oedi.
Mae’n bwysig bod gennych negeseuon cyson am y cyfnod pontio gan ddefnyddio’r pecyn cymorth rydym yn ei ddarparu i annog aelodau i symud i I Bawb.
O ddiwedd mis Tachwedd 2026 ymlaen, ni fydd Hynt yn prosesu ceisiadau ar gyfer aelodau mwyach. Rydym yn deall na fydd pob un sy’n aelod o Hynt yn symud i I Bawb ar unwaith, felly bydd gennym ni gyfnod oedi ar waith.
Os oes gennych chi ymwelwyr anabl newydd yn holi am ymuno â Hynt, cyfeiriwch nhw at wefan I Bawb.
Pryd fydd llwyfan Hynt yn cau?
Ar ôl i’r cyfnod oedi ddod i ben, byddwn yn cau llwyfan Hynt. Mae hyn yn debygol o fod yn 2027, a byddwn yn cysylltu â chi gyda’r union ddyddiad.