Amcan o’r amser darllen: 2 i 3 munud
Mae Cyfrif Blasu yn gadael i chi gael golwg ar I Bawb a rhoi cynnig ar nodweddion allweddol cyn tanysgrifio.
Mae’n rhad ac am ddim, ac nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gallwch gael y cyfrif.
Mae’r canllaw hwn yn egluro beth sydd ar gael i chi gyda Chyfrif Blasu a sut mae dechrau arni.
Beth allwch chi ei wneud gyda Chyfrif Blasu
Gyda Chyfrif Blasu, gallwch wneud y canlynol:
- Ychwanegu aelodau’r tîm at eich Sefydliad.
- Cael golwg ar sampl o’n Safonau Hygyrchedd.
- Cael rhagor o wybodaeth am ein Cynnig Sgiliau a Chymorth.
- Creu un proffil mynediad Lleoliad (ni fydd hwn yn cael ei restru’n gyhoeddus).
- Cael cymorth ac arweiniad gan Ganolfan Gymorth I Bawb.
- Rhannu eich adborth.
Ychwanegu aelodau tîm
Yn aml, mae nifer o bobl mewn sefydliad yn rheoli gwybodaeth am hygyrchedd.
Gallwch wahodd cydweithwyr i ymuno â’ch Cyfrif Sefydliad er mwyn i chi allu gweithio gyda’ch gilydd mewn un lle.
I ychwanegu aelod o’r tîm:
- Agorwch y Sefydliad rydych chi am ei reoli.
- Dewiswch Rheoli’r Sefydliad hwn.
- Ewch i Gosodiadau cyfrif y Sefydliad.
- Dewiswch Rheoli cyfrifon staff.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r Dudalen gymorth Ychwanegu aelodau eich tîm.
Edrych ar y Safonau Hygyrchedd
Mae Safonau Hygyrchedd I Bawb yn ganllawiau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau creadigol a diwylliannol i wella hygyrchedd a chyfleu gwybodaeth am fynediad yn glir.
Mae’r Safonau wedi’u trefnu’n bedair elfen:
- Yr Amgylchedd Adeiledig
- Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Cyfathrebu Digidol
- Profiadau Creadigol a Diwylliannol
Gyda Chyfrif Blasu, gallwch weld dwy Safon enghreifftiol:
- Amgylchedd Adeiledig 5.01 a Thoiledau
- Gwasanaeth i Gwsmeriaid 4.01 - Hyfforddiant a datblygu sgiliau
Bydd yr enghreifftiau hyn yn eich helpu i ddeall strwythur y Safonau a sut y gallant gefnogi eich Sefydliad.
Sgiliau a Chymorth
Mae I Bawb yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd dysgu i helpu sefydliadau i wella hygyrchedd.
Gyda Chyfrif Blasu, gallwch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael drwy I Bawb.
Pan fyddwch chi’n uwchraddio i danysgrifiad, byddwch chi’n gallu cael gafael ar gymorth ychwanegol, gan gynnwys arweiniad gan ein Harbenigwyr Mynediad.
Ewch i ddangosfwrdd eich Sefydliad i gael rhagor o wybodaeth.
Creu proffil mynediad Lleoliad
Mae proffil mynediad lleoliad yn caniatáu i chi gofnodi a rheoli gwybodaeth mynediad ar gyfer lleoliad neu safle.
Mae lleoliad yn adeilad neu’n safle cyfan, gyda’i gyfeiriad ei hun, fel:
- Theatr
- Amgueddfa
- Oriel
- Llyfrgell
- Canolfan gelfyddydau aml-leoliad
Gyda Chyfrif Blasu, gallwch greu proffil mynediad un lleoliad i weld sut mae I Bawb yn gweithio.
Ni fydd y Lleoliad hwn yn cael ei restru’n gyhoeddus. Os byddwch yn dewis tanysgrifio i I Bawb, bydd eich cynnydd yn cael ei gadw a bydd yn cael ei drosglwyddo i’r cyfrif a danysgrifiwyd gennych.
Mae tanysgrifiad I Bawb hefyd yn datgloi’r gallu i ychwanegu parthau at broffiliau Lleoliad. Mae parthau’n rhannau o leoliad fel gwahanol orielau a mannau perfformio.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cwestiynau Cyffredin am broffiliau mynediad Lleoliadau a Pharthau.
Cael gafael ar gymorth a chefnogaeth
Mae Canolfan Gymorth I Bawb yn cynnwys canllawiau ac erthyglau cymorth technegol i’ch helpu i ddefnyddio’r platfform.
Gallwch ddefnyddio’r Ganolfan Gymorth i ddysgu sut i wneud y canlynol:
- Rheoli eich Cyfrif
- Rheoli eich Sefydliad
- Creu proffiliau mynediad
- Gwahodd aelodau’r tîm
- Datrys problemau cyffredin
Beth i’w wneud nesaf
Bwriad Cyfrif Blasu yw eich helpu i gael golwg ar I Bawb cyn tanysgrifio.
Mae tanysgrifwyr yn cael mynediad at nodweddion ychwanegol, gan gynnwys:
- Y llyfrgell Safonau Hygyrchedd lawn
- Proffiliau mynediad lluosog
- Nodweddion rheoli digwyddiadau
- Cefnogaeth gan Arbenigwyr Mynediad
Gweler Nodweddion tanysgrifio i ddysgu mwy am beth mae tanysgrifiad yn ei gynnwys.
Gallwch danysgrifio unrhyw bryd drwy Ddangosfwrdd eich Sefydliad. Dewiswch Rheoli tanysgrifiadau. I danysgrifio, rhaid i chi fod yn weinyddwr eich Sefydliad.
Angen help?
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â Desg Gymorth I Bawb:
E-bost: help@allin.zendesk.com